Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (132)v2 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
3. Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
|
4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NDM5235 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod hyrwyddo diodydd egni llawn caffein i blant a phobl ifanc yn achos o bryder sylweddol i iechyd y cyhoedd; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r pryderon iechyd sy'n ymwneud â diodydd egni llawn caffein.
Cefnogir gan: Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Keith Davies (Llanelli) Ken Skates (De Clwyd) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu pwynt 2. |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5240 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau allweddol ar draws pob portffolio, yn enwedig amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros damweiniau ac achosion brys;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi enghreifftiau sy'n dangos sut y mae'r Uned Gyflawni wedi gwella cyflawni mewn portffolios penodol, gan sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei addo yn cael ei gyflawni; a
3. Yn annog y Prif Weinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rheolaidd am gynnydd ym mhob maes polisi y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i'r Uned Gyflawni.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau penodedig ochr yn ochr â holl strategaethau’r llywodraeth.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Brif Weinidog Cymru i ddarparu manylion am strwythur a chost yr Uned Gyflawni a sut mae'n gweithredu i gyflawni'r rôl a gafodd ei diffinio gan y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 13 Gorffennaf 2011.
Mae datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ar gael drwy ddilyn y linc ganlynol:
http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julydeliveryunit/?skip=1&lang=cy
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3 dileu’r cyfan ar ôl "Weinidog i” a rhoi yn ei le “gynnal dadl flynyddol ar gynnydd yr Uned Gyflawni yn y Cynulliad Cenedlaethol. |
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5239 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd buddsoddi yn y seilwaith o ran caffael, prentisiaethau, cyflogaeth a busnesau bach yn economi Cymru;
2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar economi Cymru yn sgîl toriadau i'r gyllideb gyfalaf yn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2010; a
3. Yn galw am ddiogelu'r gyllideb gyfalaf i Gymru yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant sydd ar y gweill.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i feddwl mewn ffordd arloesol ac i ystyried pob model wrth ariannu prosiectau cyfalaf.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘seilwaith’ cynnwys ‘, gan gynnwys cyllid ar gyfer band eang cyflym iawn a thrydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a chymoedd de Cymru,'
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1, ‘ac yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU mewn seilweithiau band eang a thrafnidiaeth yng Nghymru’
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi creu Banc Buddsoddi Gwyrdd, sy’n cyfeirio biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad preifat i faes ynni adnewyddadwy, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chamau i gefnogi busnesau i wneud cais am arian i sicrhau'r buddsoddiad gorau posibl yn y seilwaith ynni a swyddi gwyrdd yng Nghymru.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi gwybodaeth glir i’r gymuned fusnes yng Nghymru am unrhyw bolisïau caffael newydd ar gyfer prosiectau seilwaith.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cael mwy na £858 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant presennol.
[Os derbynnir gwelliant 6, bydd gwelliant 7 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y lefelau gwario anghynaliadwy ac anghyfrifol o dan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU, a arweiniodd at ddiffyg blynyddol o £170.8 biliwn erbyn diwedd 2009-10, ac yn croesawu’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth bresennol y DU sydd wedi torri traean oddi ar y diffyg, wedi creu miliwn a chwarter o swyddi newydd yn y sector preifat ac wedi cadw'r cyfraddau llog ar eu lefelau isaf erioed bron, a fydd yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer buddsoddi yn economi Cymru. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM5238 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Niwroffisiotherapi yng Nghymru
Dadl ar ddarparu ffisiotherapi i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 21 Mai 2013